Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10
Ionawr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng?
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(30 munud)
Dogfen Ategol:
Llythyr i Aelodau’r Cynulliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
(45 munud)
(60 munud)
NDM6192 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2016.
Troednodyn:
Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;
4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a
5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i'r Aelodau:
• Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.
Dogfennau Ategol
Gyllideb
Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol
2017-2018
(60 munud)
NDM6193 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).
Gosodwyd Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor
Cyllid ar Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi
Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 20 Rhagfyr
2016.
Dogfennau Ategol
Bil
Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig
(Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor
Cyllid
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(5 munud)
NDM6194 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Ionawr 2017